Hygyrchedd gwefan

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r wefan rheilffordd200.co.uk.

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Great British Railways Transition Team (GBRTT). Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon

Mae ein gwefan wedi'i hadeiladu i gydymffurfio â lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.2 Consortiwm y We Fyd Eang W3C, gan ddefnyddio cod sy'n cydymffurfio â safonau W3C ar gyfer HTML a CSS.

Mae’n bosibl y bydd problemau gyda’r rhannau canlynol o’r wefan y byddwn yn gweithio i’w gwella:

  • mapiau wedi'u cynhyrchu gan ddefnyddio Google Maps. Gweld gwybodaeth ar hygyrchedd Google Maps
  • dogfennau neu adnoddau a ddarperir gan sefydliadau allanol
  • defnyddio chwaraewyr fideo a sain trydydd parti

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, e-bostiwch rheilffordd200@gbrtt.co.uk.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, e-bostiwch rheilffordd200@gbrtt.co.uk.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae GBRTT wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd:

  • Any external content or websites linked to from the Rheilffordd 200 website
  • Ein canllawiau brand PDFs
  • Efallai na fydd disgrifiadau sain, capsiynau a thrawsgrifiadau ar gael ar gyfer pob fideo

Dywedwch wrthym os ydych yn cael problemau trwy e-bost at: rheilffordd200@gbrtt.co.uk.

Statws cydymffurfio

Credwn fod y wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â'r fersiwn 2.2 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe safonol oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfio isod.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ym mis Ebrill 2024.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 5 Ebrill 2024. Cynhaliwyd y prawf gan arbenigwyr hygyrchedd yn gweithio i GBRTT.

Ar ôl i’r wefan weld mwy o ddefnydd gan y cyhoedd, rydym yn bwriadu defnyddio data dadansoddeg gwefan i bennu’r tudalennau yr ymwelir â nhw fwyaf ar y wefan ac i greu sampl o dudalennau i’w profi’n rheolaidd.