Mae Railway 200 yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i greu hanes a bod yn rhan o rywbeth arbennig.
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan – p’un a ydych yn awdurdod lleol, ysgol, busnes, grŵp cymunedol neu eisiau cymryd rhan eich hun.
Gallai hyn gynnwys:
- trefnu eich gweithgareddau a digwyddiadau eich hun i gefnogi Railway 200
- dilyn Railway 200 ar gyfryngau cymdeithasol (LinkedIn i ddechrau) a rhannu ei negeseuon
- rhannu eich straeon chi neu eich sefydliad eich hun fel rhan o Railway 200
- cymhwyso logo Railway 200 i fewnrwyd, allrwyd a deunyddiau eraill eich sefydliad
- lledaenu’r gair yn eich cymuned leol
- ymgysylltu ag amgueddfeydd lleol i weld a allant gynnal arddangosfa yn 2025
- trefnu arddangosfa gelf leol wedi'i hysbrydoli gan Railway 200
- a llawer o gyfleoedd eraill!