Mae'r sgwrs ar-lein hon yn un o'r gyfres sy'n nodi Railway 200, trwy gyfrwng Seminar Hanes Trafnidiaeth a Symudedd y Sefydliad Ymchwil Hanesyddol. Mae'n rhad ac am ddim i fynychu, ac wedi'i anelu at unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes y rheilffyrdd.
Ers eu sefydlu, mae rheilffyrdd wedi ennyn ystod eang o ymatebion gan lenorion: o brysurdeb yr orsaf, i wefr teithio’n gyflym a chwilfrydedd y compartment, mae rheilffyrdd yn cynnig deunydd cyfoethog i’r dychymyg llenyddol. Ym mlwyddyn Railway 200, bydd y digwyddiad panel hwn yn cynnwys cyfres o sgyrsiau mellt gan arbenigwyr, yn archwilio hanes 200 mlynedd ysgrifau llenyddol ar y rheilffordd.