Mae trafnidiaeth well – trafnidiaeth sy'n ddiogel, yn hygyrch, yn fforddiadwy, yn ddibynadwy, yn integredig ac yn wyrdd – yn gwneud pethau anhygoel. Mae'n cysylltu cymunedau ac yn dod â phobl ynghyd; yn creu economi ffyniannus ac yn adfywio ardaloedd lleol; mae'n dda i'n hiechyd a'n lles; ac mae'n glanhau ein haer ac yn mynd i'r afael â newid hinsawdd. Rydyn ni'n meddwl bod hynny'n rhywbeth sy'n werth ei ddathlu!
Eleni, bydd ein dathliad blynyddol o drafnidiaeth gynaliadwy yn digwydd o 16 i 22 Mehefin a thema'r wythnos yw sut y gall trafnidiaeth well helpu i gysylltu cymunedau a dod â phobl at ei gilydd.
Mae rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus da, teithio a rennir, cerdded a theithio ar olwynion, a beicio yn ein helpu i gysylltu â'r bobl rydyn ni'n eu caru, y pethau sydd eu hangen arnom a'r lleoedd sy'n bwysig. Mae rhwydweithiau trafnidiaeth gwell yn creu lleoedd ffyniannus a chymunedau cryfach, ac yn helpu i adeiladu dyfodol tecach i bawb.
Ewch i www.bettertransportweek.org.uk i gael rhagor o wybodaeth!