Rydym yn falch o fod yn rhan o Railway 200 wrth i ni ddathlu 200 mlynedd ers sefydlu'r rheilffordd fodern. Dewch i ymuno â ni i ddathlu popeth yn ymwneud â rheilffyrdd yn 2025.
Rydym yn comisiynu artist i weithio gyda’r gymuned i osod murlun y tu mewn i’r ystafell aros/swyddfa docynnau yng Ngorsaf Reilffordd Cleethorpes. Bydd y murlun yn cael ei ddylunio mewn gweithdai ac yn coffau Railway 200 a threftadaeth y rheilffordd.
Mae gennym ni lawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous trwy gydol y flwyddyn a byddwn yn ychwanegu gweithgareddau a digwyddiadau newydd yn y misoedd nesaf, felly cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a thudalen digwyddiadau Railway 200. Sgroliwch i lawr am fwy o wybodaeth nawr.