Mae’r arddangosfa arbennig hon yn archwilio’r cysylltiad annatod rhwng cloddio am lo a’r rheilffyrdd. Yn sgil yr angen i gludo glo, o dan ac uwchben y ddaear, cafodd datblygiad y rheilffyrdd ei bweru gan y diwydiant mwyngloddio. Roedd haearn yn cael ei danio â glo, rheiliau haearn, rheiliau yn symud glo – roedd y gylchred beirianyddol wych oedd wrth wraidd y Chwyldro Diwydiannol wedi’i chwblhau ac ni gurodd ei chalon yn gryfach yn unman nag ym Maes Glo Great Northern.
Darganfyddwch y stori trwy waith artistiaid a welodd y trawsnewid cymdeithasol a thechnolegol hwn, gan gynnwys Thomas H. Hair, a'r rhai sydd wedi'u hysbrydoli ganddo ers hynny.