Bydd gan y Girl Guiding Railway Challenge (a gynhyrchir gan Ranbarth Geidiau Gogledd-ddwyrain Lloegr) weithgareddau i'w cwblhau yn ymwneud â Gorffennol, Presennol a Dyfodol y Rheilffyrdd. Bydd hefyd yn cynnwys gweithgareddau STEM a Diogelwch Rheilffyrdd.
Bydd gweithgareddau ar gael i weddu i’r ystod oedran o 4 i 18.
Bydd y pecyn her am ddim ar wefan Girl Guiding Gogledd Ddwyrain Lloegr.
Bydd bathodyn brethyn ar gael i'w brynu hefyd.
Mae’r bathodyn yn cael ei lansio ar 29 Mawrth 2025, ac mae wedi’i greu gan wirfoddolwyr Girl Guiding Gogledd-ddwyrain Lloegr, partneriaid diwydiant a Community Rail Swydd Gaerhirfryn.