Mae Rhwydwaith Aml-ffydd Network Rail sydd wedi’i sefydlu ers dros 10 mlynedd, mewn cydweithrediad â’r elusen NishkamSWAT (Tîm Lles ac Ymwybyddiaeth Sikhiaid), yn dod at ei gilydd i ddathlu Vaisakhi yng nghyntedd Gorsaf Victoria Llundain ddydd Sadwrn 19 Ebrill, rhwng 12pm a 4pm. Vaisakhi yw un o’r dyddiadau mwyaf arwyddocaol yng nghalendr y Sikhiaid, sy’n coffáu sefydlu’r Khalsa yn 1699 gan Guru Gobind Singh Ji – eiliad ddiffiniol a luniodd hunaniaeth ac ysbryd y Sikhiaid.
Ymunwch â chydweithwyr Sikhaidd o bob rhan o’r diwydiant, ochr yn ochr â NishkamSWAT, a fydd yn dosbarthu bwyd am ddim i’r digartref a’r cyhoedd tra’n codi ymwybyddiaeth o ymdrechion i feithrin diwylliant mwy amrywiol a chynhwysol o fewn y diwydiant rheilffyrdd. Rydym yn cydnabod yn falch gyfraniadau unigolion Sikhaidd sy'n gweithio ar bob lefel o'r sector rheilffyrdd dros y 200 mlynedd diwethaf.
Mae'r digwyddiad Vaisakhi hwn yn fwy na dathliad crefyddol a diwylliannol. Mae'n fynegiant byw o werthoedd Sikhaidd, yn llwyfan ar gyfer addysg, ac yn bont rhwng cymunedau. Mae’r mathau hyn o ddigwyddiadau yn codi ymwybyddiaeth o’r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu sydd wedi adeiladu a chynnal rhwydwaith rheilffyrdd Prydain ers 200 mlynedd.
P’un a ydych yn gydweithiwr Network Rail, yn wirfoddolwr NishkamSWAT, neu’n aelod o’r cyhoedd, diolchwn ichi am ymuno â ni i anrhydeddu’r neges bwerus hon o undod, ffydd, hunaniaeth, a gwasanaeth anhunanol.