Peirianneg Arloesol - Cyfres o sgyrsiau

treftadaeth

Llangollen Railway Trust are celebrating both the 200th anniversary and the Trust’s own 50th birthday with a series of talks.

15 Mawrth 2025
John Violet – ‘Thomas Brassey – “adeiladwr rheilffyrdd gorau’r byd”
Ein siaradwr cyntaf yn ein cyfres Peirianneg Arloesol yw John Violet o Gymdeithas Thomas Brassey. Bydd Peter yn sôn am Thomas Brassey a aned ychydig filltiroedd i’r de o Gaer ym 1805. Dechreuodd gyrfa Brassey fel syrfëwr dan hyfforddiant ar ffordd Thomas Telford o Amwythig i Gaergybi trwy Ogledd Cymru. Dysgodd lawer am beirianneg sifil, daeth yn rheolwr chwarel ar Gilgwri ac yna sefydlodd ei fusnes ei hun fel contractwr rheilffordd. Roedd Brassey ar flaen y gad gyda 'railway mania', gan adeiladu traean o holl reilffyrdd y wlad hon yn ystod ei oes, gan gynnwys y lein trwy Langollen. Adeiladodd reilffyrdd ar draws y byd, ar bron bob cyfandir ac, yn anterth ei yrfa, fe gyflogodd amcangyfrif o 85,000 o ddynion yn ei weithlu byd-eang.

12 Ebrill 2025
Dave Waldren – 'Y dyddiau cynnar ar ac o gwmpas Rheilffordd Llangollen'.
Ein hail siaradwr yn ein cyfres Peirianneg Arloesol yw Dave Waldren o Gymdeithas Rheilffordd Ucheldir Cymru. Mwynhaodd Dave ymweliadau cyson â thŷ ei fodryb yn Bridge Street yn Llangollen o'r 1970au ymlaen, felly roedd yn gallu gweld cychwyn cyntaf yr ymdrechion cadwraeth yng ngorsaf Llangollen. Gan ymchwilio i’w gasgliad helaeth o ffotograffau gwreiddiol, bydd Dave yn arddangos rhai o’r dyddiau cynnar ar Reilffordd Llangollen ac o’i chwmpas.

10 Mai 2025
Peter Dickinson – ‘Taranau a Mwg – Dyfodiad y Rheilffordd i Langollen”
Yn dilyn ymlaen o sgwrs Ebrill Dave Waldren ar ailadeiladu’r rheilffordd yn Llangollen, teithiwn yn ôl dros 100 mlynedd wrth i ni archwilio gwreiddiau Fictoraidd y lein. Bydd Peter Dickinson, Gorsaffeistr presennol Llangollen yn ymdrin â’r cynlluniau rheilffordd cynnar yn Nyffryn Dyfrdwy a’r heriau a wynebodd yr adeiladwyr rheilffordd wrth gysylltu tref Llangollen â gweddill y rhwydwaith rheilffyrdd.

Bydd mwy o ddigwyddiadau yn ystod 2025 yn dilyn yn fuan.

Yn ôl i chwiliad gweithgaredd