…yn cynnwys '200 Olwyn Ar y Cob'
Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu dau dirnod pwysig – mae 2025 yn nodi 200 mlynedd ers geni’r rheilffordd fodern (rhan o ddathliadau cenedlaethol ‘Railway 200’) a hefyd 70 mlynedd ers ailddechrau trenau teithwyr ar Reilffordd Ffestiniog, o dan y drefn newydd.
I nodi’r penblwyddi arbennig hyn, rhwng yr 20fed a’r 22ain o Fehefin 2025, byddwn yn cynnal penwythnos o ddathliadau.
Heb os, prif uchafbwynt y penwythnos fydd y sioe '200 Olwyn ar y Cob', a gynhelir ar ddydd Sul, 22ain o Fehefin. Bydd hwn yn gavalcade o injans Rheilffordd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru ar hyd y blynyddoedd, gan ymffurfio ar draws arglawdd eiconig y Cob. Bydd hwn yn achlysur hanesyddol, gan amlygu’r holl waith sydd wedi’i wneud dros y degawdau i wneud y sioe hon yn bosibl.