S&DR200: Gŵyl sy’n dathlu genedigaeth y rheilffordd fodern

treftadaethgyrfaoeddysgolteuluarbennig

Mae S&DR200 yn ŵyl ryngwladol 9 mis a gynhelir ar draws Swydd Durham a Tees Valley yn 2025, i ddathlu 200 mlynedd ers y daith gyntaf ar Reilffordd Stockton a Darlington (S&DR).

Darperir S&DR200 gan Gyngor Bwrdeistref Darlington, Cyngor Sir Durham a Chyngor Bwrdeistref Stockton-on-Tees.

Bydd ymwelwyr o bob oed yn mwynhau gosodiadau celf trochi a gemau digidol realiti estynedig, yn gweld gweithiau celf gwerthfawr yn y rhanbarth am y tro cyntaf, yn ymuno â miloedd o bobl eraill ar gyfer digwyddiadau awyr agored syfrdanol ac yn gweld rhai o hoff locomotifau'r byd.

Bydd selogion y rheilffyrdd a darpar haneswyr yn gallu clywed gan arbenigwyr yn eu meysydd a byddwn yn ymchwilio i ddyfodol teithio gyda'n partneriaid yn y diwydiant. Bydd plant lleol yn mwynhau gweithdai creadigol ymarferol a bydd pobl ifanc, cymunedau lleol a sefydliadau celfyddydol yn creu digwyddiadau arbennig ar gyfer yr ŵyl.

P'un a ydych chi'n hoff o'r rheilffordd, yn rhywun sydd wrth ei fodd yn bod yn greadigol, neu'n mwynhau profiadau diwylliannol newydd - bydd rhywbeth ar gael i chi.

Yn ôl i chwiliad gweithgaredd