Credir mai'r tri model Blenkinsop/Murray yw modelau locomotif hynaf y byd. Mae ymchwil diweddar wedi ychwanegu rhagor o wybodaeth am eu hanes. Mae'r model sydd bellach yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Ddiwydiannol Leeds wedi cael ei archwilio'n fanwl yn ystod y deuddeg mis diwethaf gan ddatgelu gwybodaeth newydd am ei darddiad a'i bwrpas. Bydd y sgwrs yn cael ei darlunio gyda ffotograffau manwl o gydrannau'r model a dynnwyd yn ystod yr astudiaeth, gan gynnwys y rhai a dynnwyd gyda sgan CT.
Dydd Sadwrn 19 Gorffennaf, 14.00 o'r gloch
Cyflwynir gan Dr. Michael Bailey, Llywydd Cymdeithas Locomotifau Stephenson, hanesydd ac archaeolegydd technoleg rheilffyrdd a locomotifau cynnar, ac awdur llawer o lyfrau a phapurau dysgedig ar y pwnc.