Mae'r newyddiadurwr, y darlledwr a'r awdur arobryn Ash Bhardwaj yn rhannu ei angerdd gydol oes dros y rheilffyrdd. Dechreuodd y cyfan pan oedd yn fachgen ifanc, yn teithio trwy India gyda'i deulu, ar daith amlsynhwyraidd o ddarganfod trwy famwlad ei dad. Mae rheilffyrdd, ym marn Ash, yn rhoi mynediad i chi at ddiwylliant a sgwrs yn wahanol i unrhyw fath arall o drafnidiaeth ac mae ei deithiau ar y rheilffordd ar draws y byd wedi rhoi mewnwelediad cyfoethog i bobl a lleoedd.