Mae Iain Quinn, cwarterfeistr ar y Waverley, y llong stemar olaf i fynd ar y môr ym Mhrydain Fawr, yn bwrw golwg hiraethus ar y cysylltiad rhwng rheilffordd a hwyl. Mae ei atgof cynharaf o deithio ar y Waverley yn dyddio'n ôl i blentyndod pan arferai deithio ar y trên ac yna mynd ar y llong stemar drwy Craigendoran i gyrraedd adref i Dunoon, i'r gorllewin o Glasgow.