Cafodd Jack Rhodes ei ddewis ar gyfer Prentis Rheilffordd y Flwyddyn ar ddiwedd ei brentisiaeth 3 blynedd gydag Alstom, lle mae bellach newydd ddechrau ei yrfa beirianneg yn y diwydiant rheilffyrdd.
Yn dilyn hynny, dewiswyd Jack i helpu i selio capsiwl amser swyddogol Railway 200 i mewn i'r Roundhouse yn Derby.
Mae'r capsiwl amser yn llawn arteffactau pen-blwydd. Mae'n nodi daucanmlwyddiant eleni ac yn cyhoeddi rheilffordd symlach, well a mwy gwyrdd, wedi'i gyrru gan y genhedlaeth nesaf o dalent arloesol. Bydd y capsiwl yn aros heb ei agor am 50 mlynedd tan 250fed pen-blwydd y rheilffordd yn 2075.