Rheilffordd y Barri: Ffrwydrad Olaf y Glo

treftadaeth

Ymunwch â Stephen K Jones a darganfyddwch fwy am stori Rheilffordd y Barri, a sut y gwnaeth rhagoriaeth glo de Cymru arwain at adeiladu'r system doc a rheilffordd integredig fwyaf yn y byd.

Mae Stephen K Jones yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Sifil, yn awdur ac yn hanesydd, gyda diddordeb arbennig yn hanes peirianneg. Mae'n awdur nifer o erthyglau a llyfrau, gan gynnwys ei gyfres aml-gyfrol, 'Brunel in South Wales'. Mae hefyd yn awdur 'Barry Railway: Coal's Last Burst', a ailgyhoeddwyd yn ddiweddar gan Amgueddfa Barry at War gyda chefnogaeth Ymddiriedolaeth Addysgol Sefydliad Peirianwyr De Cymru. Mae copïau ar gael i'w prynu o Amgueddfa Barry at War.

Bydd arddangosfa o ddogfennau o gasgliad Archifau Morganwg yn cyd-fynd â'r sgwrs.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn bersonol yn Archifau Morganwg.

Yn ôl i chwiliad gweithgaredd