Taith dywys – Cefn Ila a Brynbuga

treftadaethteulu

Agorwyd yr orsaf reilffordd segur ym Mrynbuga ar 2 Mehefin 1856 ac roedd yn rhan o Reilffordd Coleford, Trefynwy, Brynbuga a Phont-y-pŵl. Yn ei hanterth roedd yn un o ddim ond dwy orsaf ar y lein oedd â dau blatfform. Fodd bynnag, prin y gellir adnabod yr orsaf heddiw gyda llawer o'r seilwaith rheilffyrdd wedi'i guddio gan dan dyfiant trwchus. Cafodd y twnnel 256 llath gerllaw'r orsaf ei dorri trwy dywodfaen ac yn ystod y gwaith adeiladu darganfuwyd nifer o ffosilau. Caeodd yr orsaf ym 1955.

Bydd taith gerdded Cefn Ila (7 milltir), sy’n rhan o Ŵyl Gerdded Cas-gwent 2025, yn archwilio’r olion ac yn dilyn darn o wely’r trac, gan groesi’r pontydd dros ffordd yr Wysg i’r Fenni ac Afon Wysg. Mae'r llinell tuag at Glascoed a'r Felin Fach i'w gweld yn glir o'r bryn uwchben y dref.

Yn ôl i chwiliad gweithgaredd