Trenau i arddangosfa Arfordir Cambria – Gorsaf Llangollen

treftadaeth

Am dros 60 mlynedd, defnyddiodd teithwyr y grisiau yng Ngorsaf Llangollen i gyrraedd trenau a oedd yn teithio tuag at Berwyn, Glyndyfrdwy, Carrog a Chorwen. Diolch i ymdrechion ein gwirfoddolwyr, mae'n bosibl unwaith eto gyrraedd Corwen ar y trên o Langollen.

Fodd bynnag, tan gau'r llinell ym 1965, roedd hefyd yn bosibl teithio ar yr un trenau i'r Bala, Dolgellau a thref glan môr Abermaw ar Arfordir Cambria. Disgrifiodd Rheilffordd y Great Western y daith fel 'paradwys i artistiaid a physgotwyr a gwlad sy'n gyfoethog mewn nentydd mynyddig, coedwigoedd gwyllt a golygfeydd pell, heb eu curo yn unrhyw ran o Gymru'.

Am dros ganrif, byddai teithwyr yn heidio drwy Langollen ar eu ffordd i Arfordir Cambria i chwilio am haul, tywod a môr – y cynhwysion hanfodol ar gyfer gwyliau haf. Archwiliwch bleserau a difyrion y cyrchfannau glan môr hyn drwy’r arddangosfa unigryw hon o bosteri hanesyddol, ffotograffau ac arteffactau.

Yn ôl i chwiliad gweithgaredd