Mae'r hanesydd Dr Alexander Medcalf yn myfyrio ar y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd, cyfnod pan gododd disgwyliadau o'r hyn y gallai teithio ar y trên ei gynnig yn unol â'r ymgyrchoedd marchnata cain a phosteri sgleiniog a oedd yn cyflwyno delweddau hardd a moethus o deithio. Gallem fyfyrio ar y cyfnod fel oes aur teithio ar y trên yn y DU ond y tu ôl i'r delweddau sgleiniog mae Alexander Medcalf yn datgelu'r cwynion a'r ochain a wnaeth teithwyr at y rheilffyrdd, o blant swnllyd i ddadleuon dros archebu seddi a phobl yn bwyta ar y trên!