Dr Bob Nicholson – Geni siop lyfrau platfform

Mae'r trên yn lle darllen meddai Dr Bob Nicholson, Hanesydd Diwylliant Fictoraidd. Mae amser a dreulir ar y trên wedi cael ei ddefnyddio erioed fel amser i ddarllen. Heddiw efallai bod hynny ar ffôn clyfar, ond cyn apiau newyddion, llyfrau sain a darllenwyr digidol, byddai teithwyr rheilffordd yn prynu papurau newydd, llyfrau a chyfnodolion a chylchgronau wedi'u golygu'n benodol a gynlluniwyd ar gyfer y teithiwr rheilffordd.

Arweiniodd yr economi blatfform hon at enedigaeth stondinau llyfrau platfform a siopau papurau newydd, ganwyd siopau fel WHSmith o blatfform y rheilffordd. Ond nid yn unig y rhoddodd y rhwydwaith rheilffyrdd amser i bobl ddarllen, fe helpodd i ledaenu'r newyddion a'r wybodaeth mewn oes cyn-ddigidol. Gellid argraffu papur newydd yn Llundain gyda'r nos a bod ar fwrdd brecwast yn y gogledd-ddwyrain y diwrnod canlynol.