Steve Williams – Taith heb ei hail

Mae'r gyrrwr a'r gweithredwr Llwybr Parhaol Steve Williams yn gyrru trên fel dim arall yn y wlad. Gyda chyflymder uchaf o 6.5 mya, graddiant uchaf o 20% a heb gysylltiad rhwng yr injan a cherbyd teithwyr, agorodd Rheilffordd Mynydd yr Wyddfa ym 1896 ac mae wedi bod yn cludo twristiaid a phobl sy'n ymweld â'r Wyddfa am y dydd byth ers hynny.

Ar ôl taith i'r copa, mae Steve yn disgrifio rhai o fanylion unigryw gyrru'r trên stêm treftadaeth uchaf yn y wlad i'r rheilfforddwr profiadol a chynghorydd Rheilffordd 200 Philip Marsh. Stori i selogion rheilffyrdd!